Railways

Rheilffyrdd Cul a Diwydiant 

Mae rheilffordd gul yn rhatach i’w hadeiladu ac i’w haddasu na rheilffordd lled safonol. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd rhai diwydiannau yn defnyddio traciau lled cul ar systemau rheilffordd mewnol, yn enwedig os oedd gofod yn gyfyng. Roedd y rhain yn cynnwys gweithfeydd brics, bragdai, gweithfeydd peirianegol, storfeydd nwyddau a gweithfeydd dŵr, yn ogystal â gweithfeydd nwy, glo golosg, calch a dur.

Mae goruchafiaeth 2tr(600mm) fel y prif led cul a ddefnyddir gan ddiwydiant yn y DU wedi deillio i raddau helaeth o’r gwaith arloesi a wnaed ar Reilffordd Festiniog (Ffestiniog erbyn hyn), ac o’r ‘Systeme Decauville’ a gyflwynwyd yn Ffrainc ym 1876. Roedd y system hon yn cynnwys trac modwlar cludadwy, wagenni a locomotifau.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18) defnyddiwyd rhwydwaith eang o reilffyrdd 2tr (600mm) o led i symud dynion a chyflenwadau i’r rheng flaen. Ar ôl y rhyfel, cafodd llawer iawn o’r offer hwn ei brynu’n rhad i’w ddefnyddio mewn diwydiant. Profodd hen locomotifau petrol milwrol yn arbennig o ddefnyddiol. Yn gynnar yn ystod y 1930au cyflwynwyd locomotifau disel ac yn fuan iawn, rhain oedd y peiriannau arferol ar gyfer diwydiant.

O gychwyn y 1950au, yn raddol dechreuodd y cludfelt, wagenni fforch godi a chraen symudol gymryd lle’r rheilffyrdd cul ar gyfer cludo a thrin nwyddau mewn diwydiant. Heddiw mae rheilffyrdd bach cul yn dal i gael eu defnyddio ar gyfer gwaith mwyngloddio, adeiladu (yn arbennig twneli), ac yn y diwydiannau mawn a phren.

Cludwyr Cyhoeddus

Roedd llawer o reilffyrdd bach cul ym Mhrydain yn cynnig gwasanaeth cyhoeddus ac yn cludo teithwyr a nwyddau. Roedd y rhai cynharaf yng Nghymru. Y cyntaf yn Lloegr oedd Rheilffordd Ravenglass & Eskdale a agorodd ym 1875.

Yn dilyn ‘Deddf Rheilffyrdd Ysgafn’ 1896 gostyngwyd y gofynion statudol yn ymwneud ag adeiladu a rhedeg rheilffyrdd. Canlyniad hyn oedd rheilffyrdd cul cyhoeddus newydd megis y Trallwng & Llanfair, a’r Leek & Manifold. Elwodd pob un o’r rheilffyrdd hyn yn sgil y twf mewn twristiaeth a ‘thrafnidiaeth gwibdeithiau.’

O’r 1920au ymlaen, edwinodd trafnidiaeth teithwyr ar yr holl reilffyrdd a bu’n rhaid i rai gau. Parhaodd eraill, gan gynnwys y Trallwng & Llanfair, i frwydro ymlaen fel leiniau ‘nwyddau’n unig’. Cafodd rheilffordd y Trallwng & Llanfair ei phrynu yn ystod y 1950au gan gynllun cadwraeth, ac mae rheilffyrdd Lynton & Barnstaple a Corris bellach yn cael eu hadfywio fel leiniau twristiaeth.

Iwerddon

Erbyn 1914 roedd 537 o filltiroedd (864 km) o reilffyrdd bach cul yn Iwerddon. Roedd mesurau megis y ‘Ddeddf Rheilffyrdd Cul (Iwerddon)’ wedi caniatáu i lywodraeth y DU ariannu rheilffyrdd mewn ymgais i gynorthwyo’r economi ac atal allfudo. Er mwyn arbed costau adeiladu, roedd y rhan fwyaf o’r rheilffyrdd yn 3tr (910 mm) o led.

Ar ôl 1918, gyda chostau glo a llafur yn codi, dirywiodd y rhan fwyaf o’r rheilffyrdd. ‘Doedd rhannu Iwerddon ym 1921 ddim yn helpu pethau. Roedd rheilffyrdd Swydd Donegal a Londonderry & Lough Swilly yn croesi’r ffin newydd. Yn y Weriniaeth roedd rheilffyrdd cul yn cael eu rhedeg gan y Great Southern Railway of Ireland, busnes rheilffyrdd mawr heb arian nag awydd i ddatblygu rheilffyrdd oedd eisoes yn dirywio.

Ar 31 Ionawr 1961 teithiodd y trenau teithwyr olaf ar reilffyrdd cul yn Iwerddon ar Reilffordd Gorllewin Clare. Mae rhai rheilffyrdd wedi’u hadnewyddu erbyn hyn, gan gynnwys rhannau o reilffyrdd Swydd Donegal, Tralee & Dingle a Gorllewin Clare.

A narrow gauge railway is cheaper to construct and modify than a standard gauge line. In the nineteenth century some industries used narrow gauge tracks on internal railway systems, especially where space was restricted. These included brickworks, breweries, engineering works, stockyards and waterworks, as well as gas, coking coal, lime and steel plants.

The dominance of 2ft (600mm) as the main narrow gauge used by industry in the UK owes a lot to the innovations on the Festiniog (now Ffestiniog) Railway, and to ‘Systeme Decauville’ unveiled in France in 1876. This system included portable modular track, wagons and locomotives.

During the First World War (1914-18) an extensive network of 2ft (600mm) gauge railways was used to move men and supplies to the front. After the war, a huge amount of this equipment was purchased cheaply for industrial use. Ex-military petrol-engined locomotives proved to be particularly useful. In the early 1930s diesel locomotives were introduced and soon became the norm for industrial use.

From the 1950s, movement and handling by conveyor belt, forklift truck and mobile crane gradually replaced the use of narrow gauge in industry. Today narrow gauge railways continue to be used in mining, construction (especially tunnels), and in the peat and timber industries.

Public Carriers

Many narrow gauge lines in Britain ran a public service and carried passengers and goods. The earliest were in Wales. England’s first was the Ravenglass & Eskdale Railway which opened in 1875.

The ‘Light Railways Act’ of 1896 reduced the legal requirements surrounding building and running railways. The result was new public narrow gauge lines like the Welshpool & Llanfair, and the Leek & Manifold. All these lines benefited from the growth of tourism and ‘excursion traffic.’

Passenger traffic on all lines declined from the 1920s and some closed. Others, including the Welshpool & Llanfair, struggled on as ‘freight only’ lines. The Welshpool & Llanfair was taken over in the 1950s by a preservation scheme, whilst the Lynton & Barnstaple and Corris railways are now being revived as tourist lines.

Ireland

By 1914 there were 537 miles (864 km) of narrow-gauge railway in Ireland. Measures such as the ‘Light Railways (Ireland) Act’ had allowed for UK government funding of railways in an attempt to aid the economy and stem emigration. To save on construction costs most lines were 3ft (910 mm) gauge.

After 1918, with coal and labour costs growing, most lines went into decline. Partition of Ireland in 1921 did not help. The County Donegal and the Londonderry & Lough Swilly lines crossed the new border. In the Republic narrow gauge was run by the Great Southern Railway of Ireland, a mainline concern with little money or inclination to develop already failing lines.

On 31st January 1961 the last passenger narrow gauge trains in Ireland ran on the West Clare Railway. Some lines have now been revived including parts of the County Donegal, Tralee & Dingle and West Clare railways.